Y Caeau
Ar ôl i chi chwarae ar ein caeau ni ’fyddwch chi ddim am chwarae yn unman arall. Caeau artiffisial ydyn nhw sy’n chwarae ac yn teimlo fel glaswellt - fydd y bêl ddim yn bownsio’n od a ’does dim peryg i chi losgi eich hun fel sy’n digwydd ar gaeau artiffisial eraill. Mae’r caeau hyn yn cael eu defnyddio gan brif glybiau Ewrop a’r Uwch Gynghrair fel Real Madrid a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fod ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru.
Mae’r caeau hefyd yn fwy gwastad a bron 10 metr yn lletach na’r rhai a gewch chi mewn cyfleusterau 5-bob-ochr dan do eraill yn yr ardal.
Mae’r caeau wedi’u cynllunio i efelychu nodweddion chwarae glaswellt naturiol o ran sut mae’r bêl yn bownsio, yn rholio a pha mor gyfforddus yw’r cae dan draed. Gall chwaraewyr wisgo esgidiau pêl-droed cyffredin gyda styds (ond dim llafnau a dylai’r esgidiau fod yn lân).
Mae’r cyfuniad o’r llenwad ffibr meddal a rwber yn galluogi chwaraewyr i lithr-daclo a syrthio ar y cae heb losgi neu gael eu hanafu.
Mae croeso i chi
gysylltu â ni a gallwn eich tywys o amgylch ein caeau arbennig. Mae’n anodd egluro mewn geiriau sut brofiad yw chwarae ar y caeau ond mae pawb sydd wedi ymweld â’r safle wedi rhyfeddu.