Diwrnod gêm ym Mharc Ninian


 Os ydych chi’n un o ffyddloniaid Parc Ninian, byddwch chi’n gwybod bod parcio’n gallu bod yn broblem. Yma yn Gôl, rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig bargen ragorol i gefnogwyr Caerdydd barcio.

Os ydych chi’n parcio yn y ganolfan am £3 yn unig, byddwch yn derbyn taleb bar gwerth £3 AM DDIM i’w defnyddio ar ddiwrnod y gêm.

Wrth i’r traffig ymlusgo’n araf o ardal Parc Ninian gallwch fwynhau canlyniadau’r dydd, adroddiadau gemau a gemau pêl-droed byw yn y bar.

Hefyd, os ydych chi’n dod draw gyda phlant, mae croeso i chi ofyn am bêl a gadael iddyn nhw chwarae wrth i chi ymlacio gyda’ch diod.

Mae mwy a mwy o gefnogwyr yn defnyddio’r cyfleuster parcio ac mae’r awyrgylch cyfeillgar yn y ganolfan yn rhoi’r cyfle i chi bwyso a mesur y gêm a’r tymor cyfan gyda chefnogwyr timau eraill. Efallai y cewch gyfle i sgwrsio am gemau Cymru gyda’n casgliad o bosteri o gemau oddi cartref yn sbarduno’r sgwrs.

Yn anffodus, nid oes llawer o le ar gael ar gyfer gemau canol wythnos, ond bydd digon o le i chi barcio ar benwythnosau a gwyliau banc.