Canolfan Gôl yng Nghaerdydd yw cyfleuster pêl-droed pwrpasol cyntaf Cymru. Mae deg cae 5 bob ochr awyr agored ac un cae 7 bob ochr, sef yr unig un yng Nghaerdydd - i gyd dan lifoleuadau. Mae tŷ clwb gydag ystafelloedd newid, cawodydd poeth a bar trwyddedig sy’n dangos gemau byw ar sgriniau LCD a Plasma. Mae digon o lefydd parcio hefyd ar y safle dan lygad gwyliadwrus y system CCTV.

Mae Gôl yn darparu caeau chwyldroadol drwy ddefnyddio briwsion rwber mân yn lle glaswellt. Mae’r caeau yn teimlo ac yn edrych fel glaswellt naturiol heb yr anfanteision o byllau dŵr ar ôl iddi fwrw neu sychu’n grimp ar ôl tywydd crasboeth. Anghofiwch y problemau a geir ar gaeau artiffisial eraill - dyma GAE PÊL-DROED GO IAWN.

Gallwch chwarae’n rheolaidd yn y ganolfan drwy ymuno â’n cynghreiriau neu drwy archebu hirdymor. Mae caeau ar gael hefyd i’w llogi’n achlysurol, twrnameintiau a chystadlaethau un diwrnod, partïon plant ac ysgolion pêl-droed ar fore Sadwrn ac yn ystod gwyliau’r ysgol.