Os ydych chi am ymarfer yn rheolaidd mewn amgylchedd cystadleuol ond diogel, dyma’r lle delfrydol i chi. Mae gennym ni gynghreiriau addas ar gyfer pob lefel gallu ac oedran ac rydym ar agor bob dydd o’r wythnos. Byddwn yn sefydlu cynghreiriau ar gyfer;
- Dynion
- Menywod
- Myfyrwyr
- Dynion dros 35 oed
- Pobl ifanc a Phlant
- Sectorau Corfforaethol a Busnes
Gallwn ffurfio cynghreiriau i ateb eich gofynion chi, er enghraifft cynghreiriau i dimau cymysg. Mae croeso i chi gyflwyno eich awgrymiadau eich hun i dîm Gôl.
Bydd y cynghreiriau’n darparu;
Peli i’r gemau, rhestri gemau a dyfarnwyr
Ar ôl i chi gofrestru eich tîm, yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw dod i’r ganolfan a chwarae eich gemau.
Bydd Gôl yn darapru peli i chi a chyn eich gêm gyntaf, byddwch yn gallu gweld holl gemau’r tymor ar ein gwefan a gwybod pryd y byddwch chi ’n chwarae bob wythnos.
Bydd dyfarnwyr cymwys yng ngofal pob gêm, a fydd yn cael eu cefnogi gan staff Gôl yn unol â rheolau’r Ganolfan. Gofynnwn i chi barchu’r dyfarnwyr a’u penderfyniadau bob amser!
Tablau cynghrair a chanlyniadau a fydd yn cael eu diweddaru’n syth ar ein gwefan
Yn syth ar ôl eich gêm, bydd cydlynwyr y gynghrair yn cofnodi’r canlyniad ac yn diweddaru safle pawb yn y gynghrair. Erbyn i chi gael eich diod ar ôl y gêm gallwch weld pa mor uchel rydych chi wedi dringo i fyny’r tabl.
Gemau graddio cyn dechrau’r tymor
Ddim yn rhy hawdd nac yn rhy anodd!
Bydd gemau graddio cyn dechrau’r tymor yn sicrhau bod adrannau yn gystadleuol, a’ch bod chi’n chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr sydd o’r un lefel ffitrwydd a sgiliau â chi. Cynhelir gemau nifer o adrannau bob nos.
Dyrchafiad a disgyn
Gyda thimau’n ennill dyrchafiad ac yn disgyn ar ddiwedd pob tymor, mae ein cynghreiriau bob amser yn gystadleuol ac yn ddiddorol hyd y gic olaf. Mae hefyd yn golygu y bydd gennych chi wrthwynebwyr newydd bob tymor. A fyddwch chi’n gallu esgyn drwy’r adrannau?
Gwobrau i’r enillwyr
Bydd enillwyr pob adran yn derbyn cwpan a thlysau unigol yn ein noson wobrwyo ar ddiwedd y tymor.
Ymdrin ag ymddygiad gorymosodol tuag at gyd-chwaraewyr a dyfarnwyr yn gwbl ddigyfaddawd
Mae gan Ganolfannau Gôl bolisi cwbl ddigyfaddawd ar ymddygiad gorymosodol. Rydym yn cefnogi ein dyfarnwyr sydd yno i sicrhau bod eich gêm yn cael ei chwarae’n ddidrafferth
Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru tîm mewn cynghrair,
cysylltwch â ni.