Ble mae Ganolfan Caerdydd?
 |
Cyfeiriad
Rhodfa Lawrenny,
Treganna
Caerdydd
CF11 8BR
Ffôn: 0870 168 89 89
Ebost
|
Cyfarwyddiadau
O’r M4
Gadael yr M4 yng Nghyffordd 33 (Arwydd Gorllewin Caerdydd) a chymryd y tro am Benarth ar y gylchfan (arwydd A4232). Ewch i’r chwith o’r A4232 ger yr arwydd am Lecwydd (y troad am y stadiwm athletau a Pharc Ninian). Cymerwch y troad cyntaf oddi ar y gylchfan i Heol Lecwydd (B4267) a’r troad cyntaf i’r chwith i Rodfa Lawrenny.
O Ganol y Ddinas (Castell Caerdydd)
Ewch i gyfeiriad y gorllewin ar hyd Heol y Bontfaen (A4161), gan gadw i’r chwith i fynd ar hyd Stryd Wellington (A4161). Trowch i’r chwith yn y goleuadau traffig i Heol Lecwydd (B4267) yna’r pedwerydd troad i’r dde i Rodfa Lawrenny.
O Benarth
Dilynwch Heol Windsor (A4160) cyn cymryd y trydydd troad oddi ar y gylchfan i’r A4055. Yn y gylchfan nesaf ewch i’r chwith i’r A4232 (arwydd yr M4). Cadwch i’r chwith yn y troad cyntaf o’r A4232 (troad y stadiwm athletau a Pharc Ninian) a chymryd y trydydd troad ar y gylchfan i Heol Lecwydd (B4267). Cymerwch y troad cyntaf i’r chwith i Rodfa Lawrenny.
Ar y trên
Ewch ar drên o orsaf Caerdydd Canolog i orsaf Parc Ninian. Wrth ddod allan o’r orsaf trowch i’r dde i Broad Street. Trowch i’r chwith yn syth i Heol Lecwydd. Rhodfa Lawrenny yw’r troad cyntaf ar y dde o Heol Lecwydd.